Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Chwiliwch drwy ryfeddodau’r bydysawd! Trochwch eich hunan ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein rhaglen lawn-joc o weithdai hwyliog.
Cewch ddarganfod cysawd yr haul yn ein planetariwm ddigidol a dysgu am roboteg ac adeiladu hofranlongau yn ein gweithdai technoleg a pheirianneg. Mae ein rhaglen hanner tymor mis Mai wedi’i pharatoi’n ofalus i wneud yn siŵr y bydd y teulu cyfan nid yn unig yn dysgu llawer ond yn cael llwythi o hwyl, ac, yr un pryd, yn mwynhau’r cyfan sydd gan yr awyr agored i’w gynnig.