Cystadlaethau Dawns Gwerin
Mae’r Ŵyl Ddarganfod wedi ymuno ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu talentau dawnswyr gwerin ledled Cymru. Gwahoddir grwpiau i ymgeisio i gystadlu yn y cystadlaethau newydd cyffrous hyn, a fydd yn arddangos traddodiadau gwerin ar eu gorau. Bydd yr enillwyr ym mhob categori yn mynd ymlaen i gystadlu ar brif lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fis Gorffennaf 2019. Bydd y gofynion cystadlu yr un fath â rhai’r Eisteddfod.
Mae yna bedwar categori:
- Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol (C1)
- Grŵp Dawnsio Gwerin wedi’i Goreograffu / Arddullio (C2)
- Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol Plant (C3)
- Arddangos Diwylliant (C4)
Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol (C1)
Rhaglen o hyd at 8 munud o hyd a dim mwy na 30 o ddawnswyr yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin diwylliant y grŵp. Rhaid i ddawnswyr fod yn 16 oed o leiaf (ar 6 Gorffennaf 2019). Caniateir hefyd gyfanswm o wyth cerddor a dau yn cludo baneri. Rhaid i’r cyflwyniad ganolbwyntio ar draddodiadau dawnsio ac nid ar ddarnau cerddorol neu ddramatig. Gall grwpiau ddewis faint o ddawnsiau traddodiadol i’w cynnwys a chaniateir newid dillad yn ôl disgresiwn y grŵp cyn belled na fydd hynny’n torri ar rediad y dawnsio ar y llwyfan. Rhaid ystyried y llwyfannu a’r newidiadau’n ofalus. Rhaid i gyfeiliant offerynnol traddodiadol fod yn fyw, ni chaniateir cerddoriaeth wedi’i recordio.
Gwobrau’r Ŵyl Ddarganfod:
- 1af: £500
- 2il: £300
- 3ydd: £150
Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu am y Tlws Rhyngwladol yn Llangollen 2019
Grŵp Dawnsio Gwerin wedi’i Goreograffu / Arddullio (C2)
Rhaglen o hyd at 8 munud o hyd a dim mwy na 30 o ddawnswyr yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin diwylliant y grŵp. Rhaid i ddawnswyr fod yn 16 oed o leiaf (ar 6 Gorffennaf 2019). Caniateir hefyd gyfanswm o wyth cerddor a dau yn cludo baneri. Gofynnir i grwpiau gyflwyno coreograffi sy’n greadigol ac yn diddanu yn seiliedig ar eu traddodiad dawnsio gwerin. Rhaid i’r cyflwyniad ganolbwyntio ar y dawnsio ac nid ar ddarnau cerddorol neu ddramatig. Gall grwpiau ddewis faint o ddawnsiau traddodiadol i’w cynnwys a chaniateir newid dillad yn ôl disgresiwn y grŵp cyn belled na fydd hynny’n torri ar rediad y dawnsio ar y llwyfan. Anogir gwreiddioldeb a dyfeisgarwch. Rhaid ystyried llwyfannu creadigol a dyfeisgar a’r newidiadau’n ofalus. Rhaid i gyfeiliant offerynnol traddodiadol fod yn fyw, ni chaniateir cerddoriaeth wedi’i recordio.
Gwobrau’r Ŵyl Ddarganfod:
- 1af: £500,
- 2il: £300,
- 3ydd: £150 plus
Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu am y Tlws Rhyngwladol yn Llangollen 2019
Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol Plant (C3)
Rhaglen o hyd at 8 munud o hyd a dim mwy na 30 o ddawnswyr o dan 16 (ar 6 Gorffennaf 2019) yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin diwylliant y grŵp. Caniateir hefyd gyfanswm o wyth cerddor a dau yn cludo baneri. Rhaid i’r cyflwyniad ganolbwyntio ar draddodiadau dawnsio ac nid ar ddarnau cerddorol neu ddramatig. Gall grwpiau ddewis faint o ddawnsiau i’w cynnwys a chaniateir newid dillad yn ôl disgresiwn y grŵp cyn belled na fydd hynny’n torri ar rediad y dawnsio ar y llwyfan. Rhaid ystyried y llwyfannu a’r newidiadau’n ofalus. Rhaid i gyfeiliant offerynnol traddodiadol fod yn fyw, ni chaniateir cerddoriaeth wedi’i recordio.
Gwobrau’r Ŵyl Ddarganfod:
- 1af: £500,
- 2il: £300,
- 3ydd: £150
Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu am y Tlws Rhyngwladol yn Llangollen 2019
Arddangos Diwylliant (C4)
Perfformiad o hyd at 8 munud a dim mwy na 50 o berfformwyr yn arddangos diwylliant y grŵp drwy gerddoriaeth offerynnol, canu a dawnsio, gan gydbwyso’r tri. Ni ddylai yr un o’r tri (offerynnol, canu a dawnsio) fod yn bwysicach na’r lleill. Anogir grwpiau i amlygu talentau gwahanol pob perfformiwr ar y llwyfan ac arddangos amrywiaeth y gerddoriaeth offerynnol, canu a dawnsio i greu gwledd ddiwylliannol i’r llygad sy’n cydbwyso’n dda ac yn cyfuno pob un o’r tair disgyblaeth. Rhaid i lwyfannu creadigol, dillad o draddodiad y diwylliant a chysylltu â’r gynulleidfa fod yn ystyriaethau pwysig. Rhaid i’r perfformiad fod yn ddi-dor, rhaid i’r llwyfan beidio byth â bod yn wag, a rhaid newid yn dda o un dewisiad i un arall. Ni ddisgwylir i offerynwyr ddim ond cyfeilio i ddawnswyr a chantorion. Gall dawnswyr ganu, gall cantorion ddawnsio. Rhaid i’r llwyfannu fod yn wahanol i gystadlaethau corau neu ddawnsio eraill.
Gwobrau’r Ŵyl Ddarganfod:
- 1af: £500,
- 2il: £300,
- 3ydd: £150 plus
Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu am y Tlws Rhyngwladol yn Llangollen 2019