Mae’r Ŵyl Ddarganfod yn ŵyl gynhwysol chwareus i blant, wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth, gwyddoniaeth a natur.
Mae ardaloedd i’w harchwilio ac mae’n llawn dop o weithgareddau dros ddiwrnod hanner tymor Mai. Fe’i cynhelir yn Ynys Môn.
Oriau Agor
10am–5pm
Mae’r Ŵyl Ddarganfod ar gyfer pob teulu, ond y flaenoriaeth yw estyn allan i deuluoedd ag anghenion ychwanegol, gyda’n gilydd gallwn ddysgu, arbrofi, dawnsio, creu cerddoriaeth fyw a choginio a chael hwyl yn y gweithdy coginio. Mae’n lle i archwilio ein synhwyrau a darganfod bod cyfle i bawb gael profiadau hwyliog, waeth beth fo’u gallu. Mae gennym ni ardaloedd agored, lle i wersylla a nifer o weithgareddau. Mae croeso i chi ddod mewn gwisg ffansi!
Gobeithio y gallwch ymuno â ni.
Prynu Tocynnau
Be sy’mlaen?








